Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Mawrth 2024
Amser y
cyfarfod: 13.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
NDM8501 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2024-25 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
(60 munud)
NDM8499 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2024.
Dogfennau Ategol
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
(60 munud)
NDM8500 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2024-25 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2024.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor oherwydd tanariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn glaw ar Lywodraeth Cymru, cyn y setliad llywodraeth leol nesaf:
a) i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;
b) i weithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac
c) i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd o fwy na 5 y cant yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol ac yn cael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.
Ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn bydd Pwyllgor o'r Senedd Gyfan yn ymgynnull i drafod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024